13 Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen,a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd.Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd.Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch.
14 Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau,a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
15 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae cri i'w chlywed yn Rama,sŵn wylo chwerw a galaru mawr –Rachel yn crïo am ei phlant.Mae'n gwrthod cael ei chysuro,am eu bod nhw wedi mynd.”
16 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Stopia grïo. Paid colli mwy o ddagrau.Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith.Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.
17 Mae gobaith i'r dyfodol,” meddai'r ARGLWYDD“Bydd dy blant yn dod yn ôl i'w gwlad eu hunain.
18 Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist,‘Roedden ni'n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi.Ti wedi'n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu'n gwers.Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti.Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.
19 Roedden ni wedi troi cefn arnat ti,ond bellach dŷn ni wedi troi'n ôl.Ar ôl gweld ein bairoedden ni wedi'n llethu gan alar am fod mor wirion!Roedd gynnon ni gywilydd go iawnam y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni'n ifanc.’