22 Am faint wyt ti'n mynd i oedi,ferch anffyddlon?Mae'r ARGLWYDD yn creu rhywbeth newydd –mae fel benyw yn amddiffyn dyn!
23 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw,a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem:‘O fynydd cysegredig ble mae cyfiawnder yn byw,boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di!’
24 Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto.Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd.
25 Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino,ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.”
26 Yn sydyn dyma fi'n deffro ac yn edrych o'm cwmpas. Roeddwn i wedi bod yn cysgu'n braf!
27 “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto.
28 Yn union fel roeddwn i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r gwraidd a'u chwalu, eu dinistrio a'u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hadeiladu a'u plannu'n ddiogel,” meddai'r ARGLWYDD.