34 Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.”
35 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud –yr un sydd wedi gosod trefn i'r haul roi golau yn y dydda'r lleuad a'r sêr roi eu golau yn y nos;yr un sy'n corddi'r môr yn donnau mawrion –yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e:
36 “Byddai dileu pobl Israel fel cenedlyr un fath â chael gwared â threfn natur!”
37 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae'n amhosib mesur yr awyr a'r gofod,neu archwilio sylfeini'r ddaear.Mae'r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israelam bopeth drwg maen nhw wedi ei wneud,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
38 “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd dinas Jerwsalem yn cael ei hadeiladu i mi eto, o Dŵr Chanan-el i Giât y Gornel.
39 Bydd ei ffiniau yn ymestyn i'r gorllewin at Fryn Gareb ac yna'n troi i'r de i lawr i Goath.
40 Bydd hyd yn oed y dyffryn ble cafodd yr holl gyrff marw a'u lludw eu taflu, a'r holl gaeau i lawr at Nant Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o'r ddinas fydd wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na'i bwrw i lawr byth eto.”