12 Dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD y neges yma i Jeremeia:
13 “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, a'u rhyddhau nhw o fod yn gaethweision, gwnes i gytundeb gyda nhw:
14 “Bob saith mlynedd rhaid i chi ollwng yn rhydd eich cydwladwyr Hebreig sydd wedi gwerthu eu hunain i chi ac wedi'ch gwasanaethu chi am chwe mlynedd.” Ond wnaeth eich hynafiaid ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i.
15 Ond yna'n ddiweddar dyma chi'n newid eich ffyrdd a gwneud beth roeddwn i eisiau. Dyma chi'n gadael i'ch cydwladwyr fynd yn rhydd, ac mewn seremoni yn y deml ymrwymo i gadw at hynny.
16 Ond wedyn dyma chi'n newid eich meddwl eto a dangos bod gynnoch chi ddim parch ata i go iawn. Dyma chi'n cymryd y dynion a'r merched oedd wedi cael eu gollwng yn rhydd i fyw eu bywydau eu hunain, a'u gwneud nhw'n gaethweision unwaith eto!
17 “‘Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dych chi ddim wedi gwrando arna i go iawn. Dych chi ddim wedi gollwng eich cymdogion a'ch cydwladwyr yn rhydd. Felly dw i'n mynd roi rhyddid i ryfel, newyn a haint eich lladd chi.” Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dychryn pobl y gwledydd i gyd.
18 Bydda i'n cosbi'r bobl hynny sydd wedi torri amodau'r ymrwymiad. Bydda i'n eu gwneud nhw fel y llo gafodd ei dorri yn ei hanner ganddyn nhw wrth dyngu'r llw a cherdded rhwng y darnau.