3 A fyddi di ddim yn dianc o'i afael. Byddi'n cael dy ddal ac yn cael dy osod i sefyll dy brawf o'i flaen a'i wynebu'n bersonol. Wedyn byddi'n cael dy gymryd i Babilon.’
4 Ond gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud amdanat ti, Sedeceia, brenin Jwda. Mae'n dweud: ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddienyddio.
5 Byddi'n cael marw'n dawel. Byddan nhw'n llosgi arogldarth yn dy angladd di, yn union fel gwnaethon nhw i'r brenhinoedd oedd o dy flaen di. Byddan nhw'n wylo ac yn galaru ar dy ôl di, “O! ein meistr!” Dw i'n addo i ti. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.’”
6 Felly, dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud hyn i gyd wrth Sedeceia, brenin Jwda.
7 Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, ac hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca, yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir.
8 Cafodd Jeremeia neges arall gan yr ARGLWYDD ar ôl i'r brenin Sedeceia ymrwymo gyda'r bobl yn Jerwsalem i ollwng eu caethweision yn rhydd.
9 Roedd pawb i fod i ryddhau y dynion a'r merched oedd yn gaethweision. Doedd neb i fod i gadw un o'u pobl eu hunain o Jwda yn gaeth.