6 Felly, dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud hyn i gyd wrth Sedeceia, brenin Jwda.
7 Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, ac hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca, yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir.
8 Cafodd Jeremeia neges arall gan yr ARGLWYDD ar ôl i'r brenin Sedeceia ymrwymo gyda'r bobl yn Jerwsalem i ollwng eu caethweision yn rhydd.
9 Roedd pawb i fod i ryddhau y dynion a'r merched oedd yn gaethweision. Doedd neb i fod i gadw un o'u pobl eu hunain o Jwda yn gaeth.
10 Cytunodd pawb, yr arweinwyr a'r bobl i gyd, ac ymrwymo i ollwng eu caethweision yn rhydd – y dynion a'r merched oedd wedi bod yn gweithio iddyn nhw. Ar y dechrau dyma nhw'n gwneud beth roedden nhw wedi ei addo.
11 Ond ar ôl hynny dyma nhw'n newid eu meddyliau, a cymryd y dynion a'r merched yn ôl, a'u gorfodi i weithio fel caethweision eto.
12 Dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD y neges yma i Jeremeia: