1 Dyma neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda:
2 “Dos i'r gymuned ble mae'r Rechabiaid yn byw, i siarad â nhw a'u gwahodd nhw i deml yr ARGLWYDD. Dos â nhw i un o'r ystafelloedd ochr, a chynnig gwin iddyn nhw i'w yfed.”
3 Felly dyma fi'n mynd i nôl Jaasaneia (mab Jeremeia ac ŵyr Chafatsineia) a'i frodyr a'i feibion, a gweddill y gymuned o Rechabiaid,
4 a mynd â nhw i deml yr ARGLWYDD. Es â nhw i'r ystafell ble roedd disgyblion y proffwyd Chanan fab Igdaleia yn aros – sef drws nesa i'r ystafell ble roedd swyddogion y deml yn aros, ac uwch ben ystafell Maaseia fab Shalwm, prif borthor y deml.