16 Mae disgynyddion Jonadab fab Rechab wedi gwneud beth ddwedodd e wrthyn nhw, ond dych chi ddim wedi bod yn ufudd i mi.’
17 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth. Dw i wedi siarad hefo nhw a dŷn nhw ddim wedi gwrando. Dw i wedi galw arnyn nhw a dŷn nhw ddim wedi ateb.’”
18 Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’
19 Felly mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud hyn: ‘Bydd un o ddisgynyddion Jonadab fab Rechab yn fy ngwasanaethu i bob amser.’”