7 ‘Peidiwch adeiladu tai. Peidiwch tyfu cnydau. A peidiwch plannu na phrynu gwinllan. Dych chi i fyw mewn pebyll bob amser. Os gwnewch chi hynny byddwch yn byw am hir yn y wlad lle ydych chi'n crwydro.’
8 Dŷn ni a'n gwragedd a'n plant bob amser wedi gwrando a bod yn ufudd i orchymyn Jonadab fab Rechab ein cyndad. Dŷn ni erioed wedi yfed gwin
9 nac adeiladu tai, does gynnon ni ddim gwinllannoedd, caeau na chnydau,
10 a dŷn ni bob amser wedi byw mewn pebyll. Dŷn ni wedi gwrando a gwneud yn union beth ddwedodd ein cyndad Jonadab wrthon ni.
11 Ond pan ddaeth Nebwchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y wlad, dyma ni'n penderfynu dianc i Jerwsalem oddi wrth fyddin Babilon a byddin Syria. A dyna pam dŷn ni yma yn Jerwsalem.”
12 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
13 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, am i ti ei ddweud wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem: ‘Pam wnewch chi ddim dysgu gwers o hyn, a gwrando ar beth dw i'n ddweud?’ meddai'r ARGLWYDD.