8 Dŷn ni a'n gwragedd a'n plant bob amser wedi gwrando a bod yn ufudd i orchymyn Jonadab fab Rechab ein cyndad. Dŷn ni erioed wedi yfed gwin
9 nac adeiladu tai, does gynnon ni ddim gwinllannoedd, caeau na chnydau,
10 a dŷn ni bob amser wedi byw mewn pebyll. Dŷn ni wedi gwrando a gwneud yn union beth ddwedodd ein cyndad Jonadab wrthon ni.
11 Ond pan ddaeth Nebwchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y wlad, dyma ni'n penderfynu dianc i Jerwsalem oddi wrth fyddin Babilon a byddin Syria. A dyna pam dŷn ni yma yn Jerwsalem.”
12 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
13 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, am i ti ei ddweud wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem: ‘Pam wnewch chi ddim dysgu gwers o hyn, a gwrando ar beth dw i'n ddweud?’ meddai'r ARGLWYDD.
14 ‘Roedd Jonadab fab Rechab wedi dweud wrth ei ddisgynyddion am beidio yfed gwin, ac maen nhw wedi gwrando arno. Dŷn nhw erioed wedi yfed gwin. Ond dw i wedi bod yn siarad hefo chi dro ar ôl tro, a dych chi byth yn gwrando arna i.