12 Wedyn dyma Ebed-melech yn dweud wrth Jeremeia, “Rho'r carpiau a'r hen ddillad yma rhwng dy geseiliau a'r rhaffau.” A dyma Jeremeia'n gwneud hynny.
13 Yna dyma nhw'n tynnu Jeremeia allan o'r pydew gyda'r rhaffau. Ond roedd rhaid i Jeremeia aros yn iard y gwarchodlu wedyn.
14 Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am y proffwyd Jeremeia i'w gyfarfod wrth y drydedd fynedfa i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe'n dweud wrth Jeremeia, “Dw i eisiau dy holi di. Paid cuddio dim oddi wrtho i.”
15 Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Os gwna i ddweud y cwbl wrthot ti, byddi'n fy lladd i. A wnei di ddim gwrando arna i os gwna i roi cyngor i ti beth bynnag.”
16 Ond dyma'r brenin Sedeceia yn addo i Jeremeia, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD sy'n rhoi bywyd i ni yn fyw, wna i ddim dy ladd di, a wna i ddim dy roi di yn nwylo'r dynion hynny sydd eisiau dy ladd di chwaith.”
17 Felly dyma Jeremeia'n dweud wrth Sedeceia, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rhaid i ti ildio i swyddogion brenin Babilon. Os gwnei di, byddi di a dy deulu yn cael byw, a fydd y ddinas yma ddim yn cael ei llosgi.
18 Ond os byddi'n gwrthod ildio iddyn nhw, bydd y ddinas yma yn cael ei rhoi yn nwylo'r Babiloniaid, a byddan nhw'n ei llosgi'n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith.’”