6 Felly dyma nhw'n cymryd Jeremeia a'i daflu i bydew Malcîa, aelod o'r teulu brenhinol. Mae'r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw'n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i'r mwd.
7 Yna dyma Ebed-melech, dyn du o Affrica oedd yn swyddog yn y llys brenhinol, yn clywed eu bod nhw wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Roedd y brenin mewn achos llys wrth Giât Benjamin ar y pryd.
8 Dyma Ebed-melech yn gadael y palas ac yn mynd i siarad â'r brenin.
9 “Fy mrenin, syr,” meddai, “mae'r dynion yna wedi gwneud peth drwg iawn yn y ffordd maen nhw wedi trin y proffwyd Jeremeia. Maen nhw wedi ei daflu i mewn i'r pydew. Mae'n siŵr o lwgu i farwolaeth yno achos does prin dim bwyd ar ôl yn y ddinas.”
10 Felly dyma'r brenin yn rhoi'r gorchymyn yma i Ebed-melech o Affrica: “Dos â tri deg o ddynion gyda ti, a thynnu'r proffwyd Jeremeia allan o'r pydew cyn iddo farw.”
11 Felly dyma Ebed-melech yn cymryd y dynion gydag e. Aeth i'r palas a nôl hen ddillad a charpiau o'r ystafell dan y trysordy. Gollyngodd nhw i lawr i Jeremeia yn y pydew gyda rhaffau.
12 Wedyn dyma Ebed-melech yn dweud wrth Jeremeia, “Rho'r carpiau a'r hen ddillad yma rhwng dy geseiliau a'r rhaffau.” A dyma Jeremeia'n gwneud hynny.