14 yn anfon am Jeremeia a'i gymryd o iard y gwarchodlu. Yna dyma nhw'n cael Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) i ofalu amdano a'i gymryd i'w dŷ. Ond dewisodd Jeremeia aros gyda'r bobl gyffredin.
15 Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Jeremeia pan oedd yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu:
16 “Dos i ddweud wrth Ebed-melech yr Affricanwr: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i wneud beth ddywedais i i'r ddinas yma – gwneud drwg iddi yn lle gwneud da. A byddi di yma i weld y cwbl yn digwydd.
17 Ond bydda i'n dy arbed di pan fydd y peth yn digwydd,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddal gan y bobl rwyt ti'n eu hofni.
18 Bydda i'n dy achub di. Gei di ddim dy ladd yn y rhyfel. Byddi di'n cael byw, am dy fod ti wedi trystio yno i.’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.