6 Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. A cafodd pobl bwysig Jwda i gyd eu lladd ganddo hefyd.
7 Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.
8 Dyma'r Babiloniaid yn llosgi'r palas brenhinol a thai y bobl a bwrw waliau Jerwsalem i lawr.
9 Wedyn dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn y ddinas yn gaeth i Babilon – gan gynnwys y bobl oedd wedi dianc ato o Jerwsalem yn gynharach.
10 Yr unig bobl gafodd eu gadael ganddo yn Jwda oedd rhai o'r bobl gyffredin dlawd oedd heb eiddo o gwbl. Rhoddodd gaeau a gwinllannoedd iddyn nhw i ofalu amdanyn nhw.
11 Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi rhoi gorchymyn i Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, am Jeremeia.
12 “Ffeindia Jeremeia, a gofalu amdano. Paid gwneud dim drwg iddo. Gwna beth mae e'n ei ofyn i ti.”