1 Yna yn y seithfed mis dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd bwyd gyda'i gilydd yn Mitspa.
2 Ond yn sydyn dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn codi ac yn tynnu eu cleddyfau a lladd Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad.
3 Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno.
4 Y diwrnod wedyn, cyn i neb glywed fod Gedaleia wedi ei lofruddio,
5 dyma wyth deg o ddynion yn cyrraedd yno o Sichem, Seilo a Samaria. Roedden nhw wedi siafio eu barfau, rhwygo eu dillad a thorri eu hunain â chyllyll, ac yn dod ag offrymau o rawn ac arogldarth i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD yn y deml yn Jerwsalem.
6 Aeth Ishmael allan i'w cyfarfod nhw. Roedd yn cymryd arno ei fod yn crïo. A pan ddaeth atyn nhw, dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dewch i weld Gedaleia fab Achicam.”
7 Ond pan aethon nhw i mewn i'r ddinas, dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn eu lladd nhw hefyd a taflu eu cyrff i bydew.