11 Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll oedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu gwneud,
12 dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
13 Roedd y bobl oedd Ishmael wedi eu cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e.
14 Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach.
15 Ond llwyddodd Ishmael fab Nethaneia ac wyth o ddynion eraill i ddianc a croesi drosodd i wlad Ammon.
16 Dyma Iochanan fab Careach, a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e, yn arwain y bobl oedd wedi eu hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon
17 dyma nhw'n aros yn Llety Cimham, sydd wrth ymyl Bethlehem. Y bwriad oedd mynd i'r Aifft