8 Llwyddodd deg ohonyn nhw i arbed eu bywydau trwy ddweud wrth Ishmael, “Paid lladd ni. Mae gynnon ni stôr o wenith, haidd, olew a mêl wedi ei guddio mewn cae.” Felly wnaeth Ishmael ddim eu lladd nhw gyda'r lleill.
9 Roedd y pydew lle taflodd Ishmael gyrff y dynion laddwyd yn un mawr. (Dyma'r pydew oedd Asa, brenin Jwda, wedi ei adeiladu pan oedd yn amddiffyn y ddinas rhag Baasha, brenin Israel.) Ond roedd Ishmael wedi llenwi'r pydew gyda'r cyrff!
10 Yna dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth – roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi eu gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a cychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon.
11 Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll oedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu gwneud,
12 dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
13 Roedd y bobl oedd Ishmael wedi eu cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e.
14 Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach.