17 Bydd pawb sy'n penderfynu mynd i setlo yn yr Aifft yn cael eu lladd mewn rhyfel, neu yn marw o newyn neu haint. Bydd y dinistr fydda i'n ei anfon arnyn nhw mor ofnadwy fydd neb ar ôl yn fyw.’
18 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn union fel gwnes i dywallt fy llid mor ffyrnig ar bobl Jerwsalem, bydda i'n tywallt fy llid arnoch chi pan ewch chi i'r Aifft. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio. A fyddwch chi ddim yn gweld y lle yma byth eto.’
19 “Chi bobl Jwda sydd ar ôl yma, mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthoch chi, ‘Peidiwch mynd i'r Aifft.’ Dw i am i chi ddeall fy mod i wedi eich rhybuddio chi heddiw.
20 Dych chi'n gwneud camgymeriad dybryd. Bydd yn costio'ch bywydau i chi! Chi anfonodd fi at yr ARGLWYDD Dduw. ‘Gweddïa ar yr ARGLWYDD ein Duw droson ni’ meddech chi. ‘Dywed wrthon ni beth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac fe wnawn ni hynny.’
21 Wel, dyma fi wedi dweud wrthoch chi heddiw, ond dych chi ddim am wrando. Dych chi ddim am wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi fy anfon i i'w ddweud wrthoch chi.
22 Felly dw i eisiau i chi ddeall y byddwch chi'n cael eich lladd gan y cleddyf, neu'n marw o newyn a haint yn y lle dych chi'n bwriadu mynd i fyw.”