13 Dw i'n mynd i gosbi'r rhai sy'n byw yn yr Aifft, fel gwnes i gosbi pobl Jerwsalem. Dw i'n mynd i'w taro nhw gyda rhyfel, newyn a haint.
14 Fydd neb o bobl Jwda oedd ar ôl ac a aeth i lawr i'r Aifft yn dianc. Maen nhw'n hiraethu am gael mynd yn ôl i wlad Jwda, ond gân nhw ddim – ar wahân i lond dwrn o ffoaduriaid.’”
15 Dyma'r dynion oedd yn gwybod bod eu gwragedd wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'r gwragedd oedd yno hefyd, yn ateb Jeremeia. (Roedd tyrfa fawr ohonyn nhw – sef pobl Jwda oedd yn byw yn Pathros, de'r Aifft.)
16 “Ti'n dweud dy fod ti'n siarad ar ran yr ARGLWYDD. Wel, dŷn ni ddim yn mynd i wrando arnat ti!
17 Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i'r dduwies ‛Brenhines y Nefoedd‛. Roedd ein hynafiaid a'n brenhinoedd a'n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau'n dda arnon ni a doedd dim trafferthion.
18 Ond ers i ni stopio llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod iddi, dŷn ni wedi bod mewn angen – mae llawer o'n pobl ni wedi cael eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn.”
19 A dyma'r gwragedd oedd yno'n dweud, “Mae'n wir ein bod ni wedi bod yn llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ond wyt ti'n meddwl ein bod ni wedi bod yn gwneud cacennau a thywallt offrwm o ddiod iddi heb fod ein gwŷr yn gwybod am y peth ac yn ein cefnogi?”