Jeremeia 44:22-28 BNET

22 A doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu diodde'r holl ddrwg a'r pethau ffiaidd roeddech chi'n eu gwneud. Cafodd y wlad ei dinistrio a'i difetha'n llwyr ganddo. Cafodd ei gwneud yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Does neb yn byw yno heddiw.

23 Am eich bod chi wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill; am eich bod chi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod gwrando arno; am eich bod chi ddim wedi byw fel dysgodd e chi, a chadw ei reolau a'i ddeddfau – dyna pam mae'r dinistr yma wedi digwydd.”

24 Yna dyma Jeremeia yn dweud fel hyn wrthyn nhw, yn arbennig y gwragedd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft.

25 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi'r gwragedd wedi gwneud yn union beth roeddech chi'n ddweud! Roeddech chi'n dweud eich bod chi wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ac mai dyna oeddech chi'n mynd i'w wneud. Iawn! Ewch ymlaen! Cadwch eich gair!’

26 Ond gwrandwch ar beth sydd gan yr ARGLWYDD i'w ddweud wrthoch chi: ‘Dw i wedi tyngu llw i'm enw mawr fy hun,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fydd neb o bobl Jwda sydd yn yr Aifft yn galw arna i na dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, ein Meistr, yn fyw …”

27 Dw i'n gwylio, i wneud yn siŵr mai drwg fydd yn digwydd iddyn nhw, dim da. Byddan nhw'n cael eu lladd yn y rhyfel ac yn marw o newyn. Fydd neb ar ôl!

28 Ychydig iawn iawn fydd yn llwyddo i ddianc rhag y cleddyf. Byddan nhw'n mynd yn ôl i wlad Jwda o'r Aifft. Bydd y bobl o Jwda ddaeth i fyw i wlad yr Aifft yn gwybod mai beth dw i'n ddweud sy'n wir, nid beth maen nhw'n ddweud!