9 Ydych chi wedi anghofio'r holl ddrwg wnaeth eich hynafiaid yng ngwlad Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem – y drwg wnaeth brenhinoedd Jwda a'u gwragedd, a chi eich hunain a'ch gwragedd?
10 Does neb wedi dangos eu bod nhw'n sori o gwbl! Does neb wedi dangos parch ata i, na byw'n ffyddlon i'r ddysgeidiaeth a'r rheolau rois i i chi a'ch hynafiaid.’
11 “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n bendant yn mynd i ddod â dinistr arnoch chi. Dw i'n mynd i gael gwared â chi'n llwyr.
12 Byddwch chi i gyd yn marw – pawb oedd ar ôl yn Jwda ac wnaeth benderfynu dod i fyw i'r Aifft, yn bobl gyffredin ac arweinwyr. Byddwch chi i gyd yn cael eich lladd yn y rhyfel neu'n marw o newyn. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio.
13 Dw i'n mynd i gosbi'r rhai sy'n byw yn yr Aifft, fel gwnes i gosbi pobl Jerwsalem. Dw i'n mynd i'w taro nhw gyda rhyfel, newyn a haint.
14 Fydd neb o bobl Jwda oedd ar ôl ac a aeth i lawr i'r Aifft yn dianc. Maen nhw'n hiraethu am gael mynd yn ôl i wlad Jwda, ond gân nhw ddim – ar wahân i lond dwrn o ffoaduriaid.’”
15 Dyma'r dynion oedd yn gwybod bod eu gwragedd wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'r gwragedd oedd yno hefyd, yn ateb Jeremeia. (Roedd tyrfa fawr ohonyn nhw – sef pobl Jwda oedd yn byw yn Pathros, de'r Aifft.)