1 Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y gwledydd eraill.
2 Dyma'r neges am yr Aifft, ac am fyddin Pharo Necho, brenin yr Aifft, oedd yn gwersylla yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. (Cafodd y fyddin ei threchu gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda):
3 “I'ch rhengoedd! Tariannau'n barod!I'r gâd!
4 Harneisiwch y ceffylau i'r cerbydau!Ar gefnau eich stalwyni!Helmedau ymlaen! Pawb i'w le!Rhowch fin ar eich picellau!Arfwisg ymlaen!”
5 “Ond beth dw i'n weld?” meddai'r ARGLWYDD.“Maen nhw wedi dychryn.Maen nhw'n ffoiMae'r milwyr dewr yn syrthio.Maen nhw'n dianc am eu bywydau,heb edrych yn ôl.”Does ond dychryn ym mhobman!
6 Dydy'r cyflymaf ddim yn gallu dianc;dydy'r cryfaf ddim yn llwyddo i ffoi.Maen nhw'n baglu ac yn syrthioar lan Afon Ewffrates yn y gogledd.
7 Pwy ydy'r wlad sy'n codi fel yr Afon Nil,a'r afonydd sy'n llifo iddi ac yn gorlifo?