11 Dos i fyny i Gilead i chwilio am eli,o wyryf annwyl yr Aifft!Gelli drïo pob moddion dan haul,ond i ddim pwrpas –does dim gwella i fod i ti!
12 Bydd y gwledydd yn clywed am dy gywilydd.Bydd sŵn dy gri am help yn mynd drwy'r byd i gyd.Bydd dy filwyr cryfaf yn baglu dros ei gilydd,ac yn syrthio gyda'i gilydd!
13 Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod i ymosod ar wlad yr Aifft:
14 “Cyhoeddwch hyn drwy wlad yr Aifft,yn Migdol, Memffis a Tachpanches:‘Pawb i'w le! Byddwch barod i amddiffyn!Mae pobman o'ch cwmpasyn cael ei ddinistrio gan y gelyn.’
15 Pam mae dy dduw Apis wedi ffoi?Pam wnaeth dy darw ddim dal ei dir?Am bod yr ARGLWYDD wedi ei fwrw i lawr!
16 Gwnaeth i lu o filwyr syrthioa baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc.‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw.‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain,a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’
17 Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle!’”