14 “Cyhoeddwch hyn drwy wlad yr Aifft,yn Migdol, Memffis a Tachpanches:‘Pawb i'w le! Byddwch barod i amddiffyn!Mae pobman o'ch cwmpasyn cael ei ddinistrio gan y gelyn.’
15 Pam mae dy dduw Apis wedi ffoi?Pam wnaeth dy darw ddim dal ei dir?Am bod yr ARGLWYDD wedi ei fwrw i lawr!
16 Gwnaeth i lu o filwyr syrthioa baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc.‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw.‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain,a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’
17 Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle!’”
18 “Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r Brenin(yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e),“mae'r gelyn yn dod i ymosod ar yr Aifft.Bydd yn sefyll fel Mynydd Tabor yng nghanol y bryniau,neu Fynydd Carmel ar lan y môr.
19 ‘Paciwch eich bagiau bobl yr Aifft,yn barod i'ch cymryd yn gaethion!’Mae Memffis yn mynd i gael ei difetha;bydd yn adfeilion gyda neb yn byw yno.
20 Mae'r Aifft fel heffer a golwg da arni,ond bydd haid o bryfed o'r gogledd yn dod a'i phigo.