20 Mae'r Aifft fel heffer a golwg da arni,ond bydd haid o bryfed o'r gogledd yn dod a'i phigo.
21 Mae'r milwyr tâl sydd yn ei chanolfel lloi wedi eu pesgi.Ond byddan nhw hefyd yn troi a dianc gyda'i gilydd;wnân nhw ddim sefyll eu tir.Mae'r dydd y cân nhw eu dinistrio wedi dod;mae'n bryd iddyn nhw gael eu cosbi.
22 Mae'r Aifft fel neidr yn llithro i ffwrdd yn dawel,tra mae byddin y gelyn yn martsio'n hyderus.Maen nhw'n dod yn ei herbyn gyda bwyeill,fel dynion yn mynd i dorri coed.
23 Bydd yr Aifft fel coedwig drwchus yn cael ei thorri i lawr,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Mae'r dyrfa sy'n dod yn ei herbyn fel haid o locustiaid!Mae'n amhosib eu cyfri nhw!
24 Bydd pobl yr Aifft yn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n cael eu concro gan fyddin o'r gogledd.”
25 Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: “Dw i'n mynd i gosbi Amon, sef duw Thebes, a chosbi'r Aifft, ei duwiau a'i brenhinoedd. Dw i'n mynd i gosbi'r Pharo, a phawb sy'n ei drystio fe.
26 Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo'r rhai sydd eisiau eu lladd nhw – sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i filwyr. Ond ar ôl hynny bydd pobl yn byw yng ngwlad yr Aifft fel o'r blaen,” meddai'r ARGLWYDD.