4 Harneisiwch y ceffylau i'r cerbydau!Ar gefnau eich stalwyni!Helmedau ymlaen! Pawb i'w le!Rhowch fin ar eich picellau!Arfwisg ymlaen!”
5 “Ond beth dw i'n weld?” meddai'r ARGLWYDD.“Maen nhw wedi dychryn.Maen nhw'n ffoiMae'r milwyr dewr yn syrthio.Maen nhw'n dianc am eu bywydau,heb edrych yn ôl.”Does ond dychryn ym mhobman!
6 Dydy'r cyflymaf ddim yn gallu dianc;dydy'r cryfaf ddim yn llwyddo i ffoi.Maen nhw'n baglu ac yn syrthioar lan Afon Ewffrates yn y gogledd.
7 Pwy ydy'r wlad sy'n codi fel yr Afon Nil,a'r afonydd sy'n llifo iddi ac yn gorlifo?
8 Yr Aifft sy'n codi ac yn brolioei bod yn mynd i orchuddio'r ddaear fel llifogydd,a dinistrio dinasoedd a'u pobl.
9 “Ymlaen! Rhuthrwch i'r frwydr farchogion!Gyrrwch yn wyllt yn eich cerbydau!Martsiwch yn eich blaenau, filwyr traed –y cynghreiriaid o Affrica a Libia gyda'i tariannau;a'r rhai o Lydia sy'n trin bwa saeth.”
10 Ond mae beth fydd yn digwydd y diwrnod hwnnwyn llaw'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.Diwrnod o dalu'n ôl i'w elynion.Bydd y cleddyf yn difa nes cael digon;bydd wedi meddwi ar eu gwaed!Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn eu cyflwyno nhw'n aberthar lan Afon Ewffrates yn y gogledd.