1 Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i'r Pharo ymosod ar Gasa.
2 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Edrychwch! Mae'r gelynion yn codi yn y gogledd fel afon ar fin gorlifo.Byddan nhw'n dod fel llifogydd i orchuddio'r tir.Byddan nhw'n dinistrio'r wlad a phopeth ynddi,y trefi a phawb sy'n byw ynddyn nhw.Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn,a phopeth byw yn griddfan mewn poen.
3 Bydd sŵn y ceffylau'n carlamu,y cerbydau'n clecian, a'r olwynion yn rymblan.Bydd rhieni'n ffoi am eu bywydauheb feddwl troi'n ôl i geisio achub eu plantam fod arnynt gymaint o ofn.
4 Mae'r diwrnod wedi dod i'r Philistiaid gael eu dinistrio,a'r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon.Ydw, dw i'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r Philistiaid,y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta.