1 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Moab:“Mae hi ar ben ar dref Nebo! Bydd hi'n cael ei dinistrio.Bydd Ciriathaim yn cael ei chywilyddio a'i choncro –bydd y gaer yn cael ei chywilyddio a'i bwrw i lawr.
2 Fydd Moab ddim yn cael ei hedmygu eto!Bu cynllwynio yn Cheshbon i'w dinistrio:‘Dewch! Gadewch i ni roi diwedd ar y wlad!’Tref Madmen, cei dithau dy dawelu –Does dim dianc rhag y rhyfel i fod.
3 Gwrandwch ar y gweiddi yn Choronaïm!‘Dinistr llwyr! Mae'n adfeilion!’
4 Mae Moab wedi ei dryllio!Bydd ei phlant yn gweiddi allan.
5 Byddan nhw'n dringo llethrau Lwchithac yn wylo'n chwerw wrth fynd.Ar y ffordd i lawr i Choronaïmbydd sŵn pobl yn gweiddi mewn dychryn.
6 ‘Ffowch am eich bywydau! –byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’