10 (Melltith ar unrhyw un sy'n ddiog wrth wneud gwaith yr ARGLWYDD! Melltith ar unrhyw un sydd ddim yn defnyddio ei gleddyf i dywallt gwaed!)
11 “Mae Moab wedi teimlo'n saff o'r dechrau cyntaf.Mae hi wedi cael llonydd, fel gwin wedi hen setlo,a heb gael ei dywallt o un jar i'r llall.Dydy hi erioed wedi cael ei chymryd yn gaeth;mae fel gwin sydd wedi cadw ei flas a'i arogl.
12 “Ond mae'r amser yn dod pan fydda i'n anfon dynion i'w selar i'w thywallt allan a malu'r jariau'n ddarnau,” meddai'r ARGLWYDD.
13 “Bydd gan Moab gywilydd o'i heilun-dduw Chemosh, fel roedd gan Israel gywilydd o'r llo roedd yn ei drystio yn Bethel.
14 Mae dynion Moab yn brolio,‘Dŷn ni'n arwyr!Dŷn ni'n filwyr cryfion!’
15 Ond mae'r un sy'n dinistrio Moab yn dod.Bydd ei threfi'n cael eu concro,a'i milwyr ifanc gorau'n cael eu lladd,”—y Brenin, sef yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn.
16 “Mae dinistr Moab ar fin digwydd;mae'r drwg ddaw arni'n dod yn fuan.