17 Galarwch drosti, chi wledydd sydd o'i chwmpasa phawb sy'n gwybod amdani.Dwedwch, ‘O! Mae ei grym wedi ei golli;mae'r deyrnwialen hardd wedi ei thorri!’
18 Dewch i lawr o'ch safle balch ac eistedd yn y baw,chi sy'n byw yn Dibon.Bydd yr un fydd yn dinistrio Moab yn ymosodac yn dymchwel y caerau sy'n eich amddiffyn.
19 Chi sy'n byw yn Aroer,safwch ar ochr y ffordd yn gwylio.Gofynnwch i'r dynion a'r merched sy'n dianc,‘Beth sydd wedi digwydd?’
20 Byddan nhw'n ateb:‘Mae Moab wedi ei chywilyddio– mae wedi ei choncro.’Udwch a chrïo!Cyhoeddwch ar lan Afon Arnon‘Mae Moab wedi ei dinistrio.’”
21 Mae trefi'r byrdd-dir i gael eu barnu – Holon, Iahats, Meffaäth,
22 Dibon, Nebo, Beth-diblathaim,
23 Ciriathaim, Beth-gamwl, Beth-meon,