20 Byddan nhw'n ateb:‘Mae Moab wedi ei chywilyddio– mae wedi ei choncro.’Udwch a chrïo!Cyhoeddwch ar lan Afon Arnon‘Mae Moab wedi ei dinistrio.’”
21 Mae trefi'r byrdd-dir i gael eu barnu – Holon, Iahats, Meffaäth,
22 Dibon, Nebo, Beth-diblathaim,
23 Ciriathaim, Beth-gamwl, Beth-meon,
24 Cerioth a Bosra. Bydd trefi Moab i gyd yn cael eu cosbi – pell ag agos.
25 “Mae corn Moab wedi ei dorri, a'i nerth wedi dod i ben,” meddai'r ARGLWYDD.
26 Roedd Moab yn brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Ond bydd fel meddwyn yn rholio yn ei chwŷd. Bydd pawb yn chwerthin ar ei phen!