21 Mae trefi'r byrdd-dir i gael eu barnu – Holon, Iahats, Meffaäth,
22 Dibon, Nebo, Beth-diblathaim,
23 Ciriathaim, Beth-gamwl, Beth-meon,
24 Cerioth a Bosra. Bydd trefi Moab i gyd yn cael eu cosbi – pell ag agos.
25 “Mae corn Moab wedi ei dorri, a'i nerth wedi dod i ben,” meddai'r ARGLWYDD.
26 Roedd Moab yn brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Ond bydd fel meddwyn yn rholio yn ei chwŷd. Bydd pawb yn chwerthin ar ei phen!
27 Onid chi, bobl Moab, oedd yn chwerthin ar ben Israel? Roeddech yn ei thrin fel petai'n lleidr, ac yn ysgwyd eich pennau bob tro roedd rhywun yn sôn amdani.