27 Onid chi, bobl Moab, oedd yn chwerthin ar ben Israel? Roeddech yn ei thrin fel petai'n lleidr, ac yn ysgwyd eich pennau bob tro roedd rhywun yn sôn amdani.
28 Bobl Moab, gadewch eich trefia mynd i fyw yn y creigiau;fel colomennod yn nythuar y clogwyni uwchben y ceunant.
29 Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab –mae ei phobl mor falch!yn hunandybus, yn brolio, yn snobyddlyd,ac mor llawn ohoni ei hun!
30 “Dw innau'n gwybod mor filain ydy hi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Mae ei brolio hi'n wag,ac yn cyflawni dim byd!
31 Felly, bydda i'n udo dros bobl Moab.Bydda i'n crïo dros Moab gyfan,ac yn griddfan dros bobl Cir-cheres.
32 Bydda i'n wylo dros winwydden Sibmamwy na mae tref Iaser yn wylo trosti.Roedd ei changhennau'n ymestyn i'r Môr Marw ar un adeg;roedden nhw'n cyrraedd mor bell â Iaser.Ond mae'r gelyn sy'n dinistrio'n mynd i ddifethaei chnydau o ffigys a grawnwin.
33 Bydd pleser a llawenydd yn diflannu'n llwyro dir ffrwythlon Moab.Bydda i'n stopio'r gwin rhag llifo i'r cafnau;fydd neb yn gweiddi'n llawen wrth sathru'r grawnwin –bydd gweiddi, ond bydd y gweiddi'n wahanol.