3 Gwrandwch ar y gweiddi yn Choronaïm!‘Dinistr llwyr! Mae'n adfeilion!’
4 Mae Moab wedi ei dryllio!Bydd ei phlant yn gweiddi allan.
5 Byddan nhw'n dringo llethrau Lwchithac yn wylo'n chwerw wrth fynd.Ar y ffordd i lawr i Choronaïmbydd sŵn pobl yn gweiddi mewn dychryn.
6 ‘Ffowch am eich bywydau! –byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’
7 Am dy fod wedi trystio dy ymdrechion a dy gyfoeth dy hun,byddi di hefyd yn cael dy goncro.Bydd dy dduw Chemosh yn cael ei gymryd i ffwrdd,a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e.
8 Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd,fydd dim un yn dianc.Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio,a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd.Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud.
9 Côd garreg fedd i Moab,achos bydd yn cael ei throi'n adfeilion.Bydd ei threfi yn cael eu dinistrioa fydd neb yn byw ynddyn nhw.”