31 Felly, bydda i'n udo dros bobl Moab.Bydda i'n crïo dros Moab gyfan,ac yn griddfan dros bobl Cir-cheres.
32 Bydda i'n wylo dros winwydden Sibmamwy na mae tref Iaser yn wylo trosti.Roedd ei changhennau'n ymestyn i'r Môr Marw ar un adeg;roedden nhw'n cyrraedd mor bell â Iaser.Ond mae'r gelyn sy'n dinistrio'n mynd i ddifethaei chnydau o ffigys a grawnwin.
33 Bydd pleser a llawenydd yn diflannu'n llwyro dir ffrwythlon Moab.Bydda i'n stopio'r gwin rhag llifo i'r cafnau;fydd neb yn gweiddi'n llawen wrth sathru'r grawnwin –bydd gweiddi, ond bydd y gweiddi'n wahanol.
34 “Bydd y gweiddi a'r galar yn Cheshbon i'w glywed yn Eleale a hyd yn oed Iahats. Bydd i'w glywed o Soar i Choronaïm ac Eglath-shalisheia. Bydd hyd yn oed dŵr Nimrim yn cael ei sychu.
35 Fydd neb yn mynd i fyny i aberthu ar yr allorau paganaidd, ac yn llosgi arogldarth i dduwiau Moab,” meddai'r ARGLWYDD.
36 “Felly bydd fy nghalon yn griddfan fel pibau dros Moab. Pibau chwyth yn canu cân i alaru dros bobl Cir-cheres. Bydd y cyfoeth wnaethon nhw ei gasglu yn diflannu.
37 “Bydd pawb wedi siafio'r pen a'r farf. Bydd pawb wedi torri eu dwylo a chyllyll, ac yn gwisgo sachliain.