38 Fydd dim byd ond galaru i'w glywed ar bennau'r tai ac ar y sgwariau. Dw i'n mynd i dorri Moab fel potyn pridd does neb ei eisiau,” meddai'r ARGLWYDD.
39 “Bydd wedi ei dorri'n deilchion! Bydd y bobl yn udo! Bydd Moab yn troi ei chefn mewn cywilydd! Bydd yn destun sbort ac yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd o'i chwmpas.”
40 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Edrychwch! bydd y gelyn fel eryryn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Moab.
41 Bydd ei threfi yn cael eu meddiannu,a'r caerau sy'n ei hamddiffyn yn cael eu dal.Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Moab wedi dychrynfel gwraig ar fin cael babi!
42 Bydd Moab yn cael ei dinistrio ac yn peidio â bod yn genedl,am ei bod hi wedi brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD.
43 Panig, pydew a thrapsydd o'ch blaenau chi, bobl Moab!—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
44 Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychrynyn disgyn i lawr i dwll.A bydd pawb sy'n dringo o'r twllyn cael ei ddal mewn trap!Mae'r amser wedi dodi mi gosbi Moab,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.