42 Bydd Moab yn cael ei dinistrio ac yn peidio â bod yn genedl,am ei bod hi wedi brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD.
43 Panig, pydew a thrapsydd o'ch blaenau chi, bobl Moab!—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
44 Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychrynyn disgyn i lawr i dwll.A bydd pawb sy'n dringo o'r twllyn cael ei ddal mewn trap!Mae'r amser wedi dodi mi gosbi Moab,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
45 Bydd ffoaduriaid yn sefyll wedi ymlâdddan gysgod waliau Cheshbon.Mae tân wedi lledu o Cheshbon,fflamau o diriogaeth y Brenin Sihon.Mae'n llosgi ar hyd ffiniau Moabi ben y mynyddoedd yng ngwlad y bobl ryfelgar.
46 Mae hi ar ben arnat ti, Moab!Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi eich difa.Mae eich meibion yn garcharorion,a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion.
47 Ond yn y dyfodol,bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Moab yn ôl iddi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Dyma ddiwedd y neges o farn ar Moab.