6 ‘Ffowch am eich bywydau! –byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’
7 Am dy fod wedi trystio dy ymdrechion a dy gyfoeth dy hun,byddi di hefyd yn cael dy goncro.Bydd dy dduw Chemosh yn cael ei gymryd i ffwrdd,a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e.
8 Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd,fydd dim un yn dianc.Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio,a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd.Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud.
9 Côd garreg fedd i Moab,achos bydd yn cael ei throi'n adfeilion.Bydd ei threfi yn cael eu dinistrioa fydd neb yn byw ynddyn nhw.”
10 (Melltith ar unrhyw un sy'n ddiog wrth wneud gwaith yr ARGLWYDD! Melltith ar unrhyw un sydd ddim yn defnyddio ei gleddyf i dywallt gwaed!)
11 “Mae Moab wedi teimlo'n saff o'r dechrau cyntaf.Mae hi wedi cael llonydd, fel gwin wedi hen setlo,a heb gael ei dywallt o un jar i'r llall.Dydy hi erioed wedi cael ei chymryd yn gaeth;mae fel gwin sydd wedi cadw ei flas a'i arogl.
12 “Ond mae'r amser yn dod pan fydda i'n anfon dynion i'w selar i'w thywallt allan a malu'r jariau'n ddarnau,” meddai'r ARGLWYDD.