1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am bobl Ammon:“Oes gan Israel ddim disgynyddion?Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir?Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcomwedi dwyn tir Gad a setlo yn ei drefi?
2 Felly mae'r amser yn dod”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba.Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion,a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw.Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôlgan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,”—meddai'r ARGLWYDD.
3 “Udwch, bobl Cheshbon, am fod Ai wedi ei bwrw i lawr!Gwaeddwch, chi sy'n y pentrefi o gwmpas Rabba!Gwisgwch sachliain a galarwch!Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain!Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd,a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e!
4 Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf?Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon!Roeddech yn trystio eich cyfoeth, ac yn meddwl,‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’
5 Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,”meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.“Byddi'n cael dy yrru ar chwâl,a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid.