15 “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben.
16 Mae dy allu i ddychryn pobla dy falchder wedi dy dwyllo di.Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,yn byw ar ben y mynydd –ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr,bydda i'n dy dynnu di i lawr.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
17 “Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr.
18 Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
19 “Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”
20 Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman.“Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd.Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
21 Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp.Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch.