24 Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder,ac wedi ffoi mewn panig.Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,fel gwraig ar fin cael babi.
25 Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!
26 Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
27 “Bydda i'n llosgi waliau Damascus,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.”
28 Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar!Dinistriwch bobl y dwyrain.
29 Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau,eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd.Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’
30 Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd;ewch i guddio mewn ogofâu!Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon,yn bwriadu ymosod arnoch chi.Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi!