25 Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!
26 Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
27 “Bydda i'n llosgi waliau Damascus,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.”
28 Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar!Dinistriwch bobl y dwyrain.
29 Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau,eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd.Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’
30 Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd;ewch i guddio mewn ogofâu!Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon,yn bwriadu ymosod arnoch chi.Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi!
31 Codwch, ac ymosodar wlad sy'n meddwl ei bod mor saff!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Does dim giatiau dwbl gyda barrau i'w hamddiffyn,a does neb wrth ymyl i'w helpu.