32 Bydd y milwyr yn cymryd ei chameloda'i gyrroedd o wartheg yn ysbail.Bydda i'n gyrru ar chwâlbawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch.Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
33 Bydd Chatsor wedi ei throi'n adfeilion am byth.Bydd yn lle i siacaliaid fyw –fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno.
34 Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am wlad Elam, yn fuan ar ôl i Sedeceia gael ei wneud yn frenin ar Jwda.
35 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam,sef asgwrn cefn eu grym milwrol.
36 Dw i'n mynd i ddod â gelynionyn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad,a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl.Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman.
37 Bydd pobl Elam wedi eu dychryn yn lângan y gelynion sydd am eu lladd nhw.Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw,a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau,nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.
38 Bydda i'n teyrnasu dros Elam.Bydda i'n lladd eu brenin a'u swyddogion,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.