34 Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am wlad Elam, yn fuan ar ôl i Sedeceia gael ei wneud yn frenin ar Jwda.
35 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam,sef asgwrn cefn eu grym milwrol.
36 Dw i'n mynd i ddod â gelynionyn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad,a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl.Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman.
37 Bydd pobl Elam wedi eu dychryn yn lângan y gelynion sydd am eu lladd nhw.Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw,a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau,nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.
38 Bydda i'n teyrnasu dros Elam.Bydda i'n lladd eu brenin a'u swyddogion,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
39 “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Elam yn ôl iddi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.