1 “Ewch yn ôl ac ymlaen drwy strydoedd Jerwsalem.Edrychwch yn fanwl ym mhobman;chwiliwch yn ei sgwariau cyhoeddus.Os allwch chi ddod o hyd i un personsy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn onest,gwna i faddau i'r ddinas gyfan!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
2 Mae'r bobl yma'n tyngu llw,“Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw …”Ond y gwir ydy fod eu geiriau'n gelwydd!
3 O ARGLWYDD, onid gonestrwydd wyt ti eisiau?Ti'n ei cosbi nhw, a dŷn nhw'n cymryd dim sylw.Bron i ti eu dinistrio, ond maen nhw'n gwrthod cael eu cywiro.Maen nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod newid eu ffyrdd.
4 Wedyn dyma fi'n meddwl, “Pobl dlawd gyffredin ydy'r rhain.Maen nhw wedi ymddwyn yn ddwl;dŷn nhw ddim yn gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau,a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.