Jeremeia 5:1-7 BNET

1 “Ewch yn ôl ac ymlaen drwy strydoedd Jerwsalem.Edrychwch yn fanwl ym mhobman;chwiliwch yn ei sgwariau cyhoeddus.Os allwch chi ddod o hyd i un personsy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn onest,gwna i faddau i'r ddinas gyfan!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

2 Mae'r bobl yma'n tyngu llw,“Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw …”Ond y gwir ydy fod eu geiriau'n gelwydd!

3 O ARGLWYDD, onid gonestrwydd wyt ti eisiau?Ti'n ei cosbi nhw, a dŷn nhw'n cymryd dim sylw.Bron i ti eu dinistrio, ond maen nhw'n gwrthod cael eu cywiro.Maen nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod newid eu ffyrdd.

4 Wedyn dyma fi'n meddwl, “Pobl dlawd gyffredin ydy'r rhain.Maen nhw wedi ymddwyn yn ddwl;dŷn nhw ddim yn gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau,a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.

5 Gwna i fynd i siarad gyda'r arweinwyr.Byddan nhw'n gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau,a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.”Ond roedden nhw hefyd fel ychen wedi torri'r iauyn gwrthod gadael i Dduw eu harwain nhw.

6 Felly, bydd y gelyn yn dod i ymosod fel llew o'r goedwig.Bydd yn neidio arnyn nhw fel blaidd o'r anialwch.Bydd fel llewpard yn stelcian tu allan i'w trefi,a bydd unrhyw un sy'n mentro allan yn cael ei rwygo'n ddarnau!Maen nhw wedi gwrthryfelaac wedi troi cefn ar Dduw mor aml.

7 “Jerwsalem – sut alla i faddau i ti am hyn?Mae dy bobl wedi troi cefn arna i.Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛sydd ddim yn bod!Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhwdyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid,