13 Mae'r proffwydi'n malu awyr!Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw!Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweudddigwydd iddyn nhw eu hunain!’”
14 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn ei ddweud:“Am eu bod nhw'n dweud hyn,dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dânyn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.”
15 “Gwranda Israel,” meddai'r ARGLWYDD“Dw i'n mynd i ddod â gwlad o bell i ymosod arnat ti –gwlad sydd wedi bod o gwmpas ers talwm.Dwyt ti ddim yn siarad ei hiaith hi,nac yn deall beth mae'r bobl yn ei ddweud.
16 Mae ei milwyr i gyd yn gryfion,a'i chawell saethau fel bedd agored.
17 Byddan nhw'n bwyta dy gnydau a dy fwyd.Byddan nhw'n lladd dy feibion a dy ferched.Byddan nhw'n bwyta dy ddefaid a dy wartheg.Byddan nhw'n difetha dy goed gwinwydd a dy goed ffigys.Byddan nhw'n ymosod, ac yn dinistrio dy gaerau amddiffynnol –a thithau'n meddwl eu bod nhw mor saff!
18 “Ond hyd yn oed bryd hynny fydda i ddim yn eich dinistrio chi'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.
19 “A Jeremeia, pan fydd y bobl yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud y pethau yma i ni?’, byddi di'n ateb, ‘Am eich bod wedi ei wrthod e, a gwasanaethu duwiau estron yn eich gwlad eich hunain, byddwch chi'n gwasanaethu pobl estron mewn gwlad ddieithr.’”