23 Ond mae'r bobl yma mor benstiff, ac yn tynnu'n groes;maen nhw wedi troi cefn a mynd eu ffordd eu hunain.
24 Dŷn nhw ddim wir o ddifrif yn dweud,“Gadewch i ni barchu'r ARGLWYDD ein Duw.Mae'n rhoi'r glaw i ni yn y gwanwyn a'r hydref;mae'n rhoi'r cynhaeaf i ni ar yr adeg iawn.”
25 Mae'ch drygioni wedi rhoi stop ar y pethau yma!Mae'ch pechodau chi wedi cadw'r glaw i ffwrdd.’
26 ‘Mae yna bobl ddrwg iawn ymhlith fy mhobl i.Maen nhw fel helwyr adar yn cuddio ac yn gwylio,ar ôl gosod trapiau i ddal pobl.
27 Fel caets sy'n llawn o adar wedi eu dal,mae eu tai yn llawn o enillion eu twyll.Dyna pam maen nhw mor gyfoethog a phwerus,
28 wedi pesgi ac yn edrych mor dda.Does dim pen draw i'w drygioni nhw!Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad,nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd.
29 Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?’ meddai'r ARGLWYDD.‘Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?’