7 “Jerwsalem – sut alla i faddau i ti am hyn?Mae dy bobl wedi troi cefn arna i.Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛sydd ddim yn bod!Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhwdyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid,
8 fel meirch cryfion yn awchu am gaseg;pob un yn gweryru am wraig ei gymydog.
9 Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD.“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”
10 “Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha,ond peidiwch â'i dinistrio nhw'n llwyr.Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd,achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD.
11 Mae pobl Israel a Jwda wedi bod yn anffyddlon i mi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
12 “Ydyn, maen nhw wedi gwrthod credu'r ARGLWYDDa dweud pethau fel, ‘Dydy e'n neb!Does dim dinistr i ddod go iawn.Welwn ni ddim rhyfel na newyn.
13 Mae'r proffwydi'n malu awyr!Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw!Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweudddigwydd iddyn nhw eu hunain!’”