25 Mae'r ARGLWYDD wedi agor ei stordy arfau;mae wedi dod ag arfau ei ddigofaint i'r golwg.Mae gan y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,waith i'w wneud yng ngwlad y Babiloniaid.
26 “Dewch yn ei herbyn hi o ben draw'r byd!Agorwch ei hysguboriau hi!Trowch hi'n domen o adfeilion! Dinistriwch hi'n llwyr!Peidiwch gadael unrhyw un ar ôl yn fyw!
27 Lladdwch ei milwyr hi i gyd,fel teirw yn cael eu gyrru i'r lladd-dy!Ydy, mae hi ar ben arnyn nhw!Mae'r diwrnod iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod!”
28 Gwrandwch ar y ffoaduriaid sy'n dianc o Babilon. Maen nhw ar eu ffordd i Seion, i ddweud sut mae'r ARGLWYDD wedi dial – wedi dial ar Babilon am beth wnaethon nhw i'w deml.
29 “Galwch am fwasaethwyr i ymosod ar Babilon!Galwch ar bawb sy'n trin y bwa saeth i ddod yn ei herbyn hi!Codwch wersyll o gwmpas y ddinas!Does neb i gael dianc!Talwch yn ôl iddi am beth wnaeth hi.Gwnewch iddi hi beth wnaeth hi i eraill.Mae hi wedi ymddwyn yn haerllugyn erbyn yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.
30 Felly, bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
31 “Gwranda! Dw i yn dy erbyn di, ddinas falch,meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.Mae'r diwrnod pan dw i'n mynd i dy gosbi di wedi dod.